Diolch ichi am
eich llythyr dyddiedig 1 Ebrill ynghylch cylch gorchwyl drafft
Ymchwiliad Covid-19 Annibynnol y DU, ac am gael gweld eich ymateb
i'r cadeirydd, y Farwnes Hallett.
Rwyf wedi ymrwymo i Ymchwiliad Covid-19
Annibynnol y DU. Mewn llythyr at Brif Weinidog y DU ym mis Tachwedd
dywedais y byddai Llywodraeth Cymru’n yn mynd ati mewn ffordd
onest – byddwn yn ymgysylltu'n llawn ac yn agored
â’r ymchwiliad.
Bu ichi ofyn a fyddai'r ymchwiliad yn gallu
cyhoeddi ei adroddiadau ei hun. Rwyf yn deall mai'r cadeirydd fydd
yn gyfrifol am gyhoeddi adroddiadau'r ymchwiliad, gan gynnwys
unrhyw adroddiadau interim.
MARK DRAKEFORD
Canolfan
Cyswllt Cyntaf / First Point of Contact Centre:
Rydym yn
croesawu derbyn gohebiaeth yn Gymraeg. Byddwn yn ateb gohebiaeth a
dderbynnir yn Gymraeg yn Gymraeg ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn
arwain at oedi.
We welcome
receiving correspondence in Welsh. Any correspondence received in
Welsh will be answered in Welsh and corresponding in Welsh will not
lead to a delay in responding.